Yr Arglwydd a'm carodd i'n rhyfedd erioed

(Cariad tragwyddol Duw)
Yr Arglwydd a'm carodd i'n rhyfedd erioed;
Fe'm cywir adnabu yn mhell cyn fy mod,
  Arfaethodd yn gynnar fy nghadw'n ddiogel,
  Pan wnaeth ei gyfammod
      yn sicr dan sel.

A chariad tragwyddol fe'm carodd i do;
Clod iddo trwy'r nefoedd!
    fe'm cadwodd mewn co':
  'Sgrifenodd fy enw i yno ryw bryd
  Yn mhlith y rhai garwyd
      cyn seiliad y byd.

Er imi droseddu glan gyfraith fy Nuw,
Do, ganwaith ei demtio
    a'i flino, gwir yw,
  Ni newid, ni thorir y weithred a wnaed
  Gynt yn nhragwyddoldeb -
      fe dd'wedodd fy Nhad.

Wel, dyma fel carodd
    fi'n rhodd ac yn rhad;
Pa drysor dan nefoedd
    mwy gwerthfawr a gaed?
  Oen anwyl ei fynwes
      a gefais heb gel;
  Mae ynddo'n guddiedig fy mywyd dan sel.

Mi ges y Ffrynd goreu fyth,
    fyth, all'sai fod;
Yr addewid a roddodd ni thorodd erioed:
  Er byw'n ei ogoniant yn nghanol y nef,
  Mewn awr o gyfyngder
      fe_wrendy fy llef.
William Williams 1717-91

Tonau [11.11.11.11]:
Joanna (alaw Gymreig)
Wareham (William Knapp 1798-1868)

gwelir:
  Mae'n bryd i ni ganu ni gawsom y fraint
  Mi ge's y Ffrynd goreu fyth fyth all'sai fod

(The everlasting love of God)
The Lord loved me - ever a wonder;
He rightly knew me long before I was,
  He planned early to keep me safe,
  When he made his covenant
      secure under a seal.

With everlasting love, yes, he loved me;
Praise to him throughout the heavens!
    he kept me in memory:
  He wrote my name there some time
  Amongst those beloved
      before the foundation of the world.

Although I transgressed my God's holy law,
Yes, a hundred times tested him
    and grieved him, it is true,
  Neither to be changed, nor to be broken
      are the actions that did
  Once in eternity -
      my Father said.

See, this is how he loved
    me as a gift and freely;
What treasure under heaven
    more valuable was got?
  The dear lamb of his bosom
      I got without a lie;
  In him hidden is my life under a seal.

I got the best Friend ever,
    ever, that could be;
The promise he gave he never broke:
  To live in his glory in heaven's centre,
  In an hour of straits
      he will hear my cry.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~